Telerau ac amodau'r gystadleuaeth

Gall defnyddwyr gymryd rhan yn ein cystadleuaeth trwy brynu cynnyrch yn uniongyrchol ar-lein gan Pero Pet Foods.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 23:59 ar 31 Awst 2021.

Mae cyflenwad blwyddyn yn gyfystyr â mwyafswm o 6 pecyn x 12kg o fwyd sych.

Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu ddim hwyrach na 48 awr wedi i'w gynnig gael ei ddewis ar hap.

Os na fydd yr enillydd yn ymateb cyn pen 7 diwrnod wedi derbyn yr hysbysiad, mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ail-dynnu a dewis enillydd arall (ac yn y blaen nes bod y wobr wedi'i chyflwyno).

Os mai chi yw'r enillydd lwcus, bydd angen i chi ddarparu'ch cyfeiriad e-bost, rhif ffôn cyswllt a'ch cyfeiriad cartref yn ôl y cyfarwyddyd ar adeg cael eich cyhoeddi fel ein henillydd.

Caniateir un cais i bob aelwyd.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i drigolion y Deyrnas Unedig (Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon) yn unig.

Rydym yn cadw'r hawl i eithrio unrhyw gofnodion y credwn sy'n amhriodol, yn dwyllodrus neu'n seiliedig ar gamymddwyn.

Yr hyrwyddwr yw Four Communications Ltd. sy'n gweithredu ar ran Pero Pet Foods. Nid yw gweithwyr (a'u teuluoedd neu asiantau) yr hyrwyddwr na Pero Pet Foods yn gymwys i gystadlu.

Bydd unrhyw gofnod sy'n annarllenadwy, ar goll neu wedi ei golli, yn anghyflawn neu'n dwyllodrus, neu nad yw'n cydymffurfio â'r rheolau hyn fel arall, yn cael ei ddiarddel yn ôl disgresiwn llwyr Four Communications Ltd.

Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am gofnodion a gollwyd, a ddifrodwyd neu a ohiriwyd o ganlyniad i fethiant rhwydwaith, caledwedd cyfrifiadur / ffôn neu feddalwedd o unrhyw fath.

Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu newid telerau'r hyrwyddiad hwn heb rybudd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.

Gall yr hyrwyddwr yn ôl ei ddisgresiwn estyn cyfnod yr hyrwyddiad.

Mae'r hyrwyddiad hwn a'r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr a Chymru ac yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.