Crëwyd gan Berchnogion Cŵn, ar gyfer Perchnogion Cŵn
Datblygwyd Pero yn wreiddiol oherwydd bod ein cŵn ni’n amharod i fwyta unrhyw frandiau prif ffrwd oedd ar gael yn yr 1980au.
Ar ôl cael digon o'r broblem hon, aethom ni ati i ddechrau cymysgu ein bwydydd ci naturiol ein hunain, a ddaeth yn boblogaidd iawn gyda'n cŵn ni.
Dydyn ni ddim yn defnyddio unrhyw liwiau, ychwanegion na chadwolion artiffisial yn ein bwydydd, a heddiw, mae milfeddygon yn argymell ein cynnyrch ac mae ein holl ryseitiau yn 100% blasus a chyflawn, fel y bwriadwyd gan natur.
Ffordd Pero
Mae ffordd Pero yn golygu ein bod yn gwmni moesegol, teuluol sy'n gwneud safiad yn erbyn creulondeb i anifeiliaid a phrofion anfoesegol ar anifeiliaid. Mae holl gynhyrchion Pero/Truline wedi'u hardystio yn rhydd o greulondeb gan PETA, ac mae Pero yn un o'r ychydig iawn o gwmnïau sy’n cael ei argymell gan Uncaged.
Bydd ein hathroniaeth, ein gwerthoedd a'n harbenigedd maethol yn cadw'ch cŵn yn iach ac yn egnïol, o’u hieuenctid hyd eu henaint.
Bwydydd Anifeiliaid Anwes sydd wedi Ennill Gwobrau, Wedi'u Gwneud yng Nghymru!
Sefydlwyd Pero ym 1982, ac mae’n wneuthurwr bwydydd anifeiliaid anwes naturiol o ansawdd uchel, sy’n llwyddiannus ac yn flaenllaw. Mae bwydydd Pero yn cael eu cydnabod ymysg y gorau sydd ar gael, ac maen nhw wedi ennill sawl gwobr fyd-eang am ragoriaeth ac ansawdd.
Mae bwydydd Pero wedi ennill nifer o wobrau’r diwydiant, ac yn fwyaf diweddar, wedi ennill GWOBR BRAND Y FLWYDDYN yn y Categori Bwyd Ci Gorau am ddwy flynedd yn olynol, gan ennill yn 2018 a 2019, a churo mwy na 800 brand o 35 gwlad.