Mae ein bwydydd yn cael eu gwneud o'r cynhwysion gorau sydd ar gael. Maen nhw’n berffaith gytbwys er mwyn darparu'r cyfuniad gorau posibl o faeth a blas, ac wedi ennill sawl gwobr am eu hansawdd. Rydym ni wedi treulio dros 30 mlynedd yn datblygu ein ryseitiau i sicrhau bod pob ci yn gallu bwyta'r bwyd gorau sydd ar gael, a’r cyfan o'n fferm deuluol yma yng Nghymru.
Crëwyd gan Berchnogion Cŵn, ar gyfer Perchnogion Cŵn
Wedi’i greu ym 1982 gan ffermwr a’i gi, crëwyd Pero yn wreiddiol mewn ymateb i amharodrwydd ein cŵn ni i fwyta unrhyw un o’r bwydydd oedd ar gael yn yr 80au. Doedd y safonau ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes ddim yr hyn ydyn nhw heddiw, ac roeddem ni eisiau helpu i greu newid.
Maeth fel y Bwriadwyd gan Natur
Mae ein holl fwydydd wedi'u llunio'n arbennig i ddarparu proffil maethol cwbl naturiol, hollol gytbwys ar gyfer cŵn o bob oed a brîd. O gŵn sy'n gweithio i gŵn bach annwyl, o gŵn Mawr Denmarc i ddaeargwn Efrog, mae eu holl anghenion maethol ar gael gan Pero!
Wedi'i Wneud Mewn Ffordd Foesegol
Rydym ni’n gwneud safiad cryf yn erbyn creulondeb i anifeiliaid, gan ymarfer polisi dim goddefgarwch ar brofi ar anifeiliaid.
Mae holl fwydydd a dulliau Pero yn cael eu cymeradwyo gan nifer o sefydliadau lles anifeiliaid, ac mae Pero yn un o'r ychydig gwmnïau sy’n cael ei gymeradwyo gan UnCaged, yr elusen Lles Anifeiliaid.
Siopa Pero
Ydych chi’n rhoi bwyd arobryn i’ch chi?
Siopa Pero